Neidio i'r cynnwys

Luo (iaith)

Oddi ar Wicipedia

Iaith a siaredir gan y grŵp ethnig Luo yn nwyrain Affrica yw Luo neu Dholuo. Mae'n aelod o is-deulu ieithyddol o ieithoedd Nilotig o fewn tuelu'r Ieithoedd Nilo-Saharaidd.

Amgangyfrifir fod tua 3.4 miliwn o siaradwyr i gyd, yn bennaf yn yr ardal i'r dwyrain a'r de o Lyn Victoria yn Nghenia a Thansanïa. Ceir darlledu yn yr iaith yng Nghenia.