Llangollen
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,658, 3,603 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Dyfrdwy |
Cyfesurynnau | 52.97°N 3.17°W |
Cod SYG | W04000165 |
Cod OS | SJ215415 |
Cod post | LL20 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llangollen. Mae'n enwog am ei phont hynafol a'i hadeiladau deniadol. Saif ar lan Afon Dyfrdwy. Mae priffordd yr A5 yn mynd drwy Langollen. Mae Caerdydd 165 km i ffwrdd o Langollen ac mae Llundain yn 264 km. Y ddinas agosaf ydy Caer, sy'n 31 km i ffwrdd.
Mae'n enwog am ei safle ar lan Afon Dyfrdwy a'r Eisteddfod Ryngwladol a gynhelir yno'n flynyddol ac sy'n denu cantorion a dawnswyr oddi wrth lawer o wledydd y byd. Cymerodd yr ysgol uwchradd, sef Ysgol Dinas Brân ei henw o'r castell lleol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[1][2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Enwir y dref ar ôl Sant Collen (efallai 6g). Cyrhaeddodd Sant Collen y dref mewn cwrwgl, medd traddodiad. Mae enw'r sant i'w gael mewn lleoedd eraill, fel Sant Collen (yng Nghernyw) a Langolen (tref yn Llydaw).
Yn y rhigwm Saesneg o ddiwedd y 18g, mae Pont Llangollen yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Adeiladwyd y bont enwog dros Afon Dyfrdwy ar ddiwedd y 14g neu ddechrau'r 15g gan John Trefor II, Esgob Llanelwy.
Uwchlaw'r dref mae Plas Newydd, lle bu Merched Llangollen yn byw. Dihangodd Eleanor Butler (1739-1829) a Sarah Ponsonby (1755-1831) o deuluoedd aristocrataidd Seisnig yn Iwerddon ac roedden nhw'n byw yn y tŷ am oddeutu hanner canrif.
Yr hen blwyf
[golygu | golygu cod]Yn hen blwyf Llangollen roedd tri thraean:[3]
- Traean Llangollen: yn cynnwys trefgorddau Bachau, Cysylltau, Llangollen Abad, Llangollen Fawr, Llangollen Fechan, Feifod, Pengwern a Rhisgog.
- Traean Trefor: yn cynnwys trefgorddau Cilmediw, Dinbren, Eglwysegl, Trefor Isaf a Threfor Uchaf.
- Traean y Glyn: yn cynnwys trefgorddau Cilcochwyn, Crogeniddon, Crogenwladus, Erwallo, Hafodgynfor, Nantygwryd, Pennant a Thalygarth.
Roedd Llangollen yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974, yn Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ac mae yn y Sir Ddinbych newydd ers 1996.
Pobl o Langollen
[golygu | golygu cod]- Gruffudd Hiraethog (m. 1564) - bardd
- Huw Morus (Eos Ceiriog) - un o feirdd gorau'r 17g, a aned yn Llangollen, yn ôl pob tebyg
- Jonathan Hughes (1721 - 1805) - bardd ac anterliwtwr sy'n adnabyddus yn bennaf fel awdur y gyfrol Bardd a Byrddau.
- Merched Llangollen - Eleanor Butler a Sarah Ponsonby.
Eisteddfod Genedlaethol
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangollen ym 1908. Am wybodaeth bellach gweler:
Caneuon
[golygu | golygu cod]- Llangollen Market, traddodiadol
- Ladies of Llangollen, Ian Chesterman
- Pastai Fawr Llangollen, Arfon Gwilym
Atyniadau yn y cylch
[golygu | golygu cod]- Abaty Glyn y Groes, abaty canoloesol
- Castell Dinas Brân, bryngaer a chastell
- Piler Eliseg, cofgolofn gynnar
- Creigiau Eglwyseg, creigiau calchfaen hardd
- Traphont Pontcysyllte, traphont enwog
- Rheilffordd Llangollen, rheilffordd treftadaeth
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Gwesty'r Chain Bridge, rhwng 1890 a 1900
-
Capel y Bedyddwyr tua 1875.
-
Afon Dyfrdwy yn llifo trwy Langollen
-
Golygfa i'r dref o'r bont
-
Yr afon o'r bont
-
Plas Newydd, cyn-gartref Merched Llangollen
-
Glanfa Llangollen
-
Yr afon wedi'i rhewi a Gorsaf Reilffordd Llangollen ar y dde
-
Eglwys St Collen
-
Rheilffordd Llangollen
-
Un o gerbydau'r rheilffordd fach
-
Castell Dinas Brân
-
Eglwys Sant Collen
-
Abaty Glyn y Groes
-
Colofn Eliseg
-
Dyffryn Llangollen
-
Hen argraff Llangollen
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "traean", GPC
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion