Kūkai
Kūkai | |
---|---|
Ffugenw | 教海, 如空, 空海, 空海上人, お大師さん, お大師様 |
Ganwyd | 佐伯眞魚 27 Gorffennaf 774 Tado district, Zentsū-ji, Kaigan-ji |
Bu farw | Kōyasan |
Dinasyddiaeth | Japan |
Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, bardd, caligraffydd, bhikkhu, athronydd |
Adnabyddus am | Bunkyō Hifuron, Tenrei Banshō Meigi, Jūjū Shinron, Sangō Shiiki, Fūshinjō, Secret Key to the Heart Sutra, Shōryōshū, 3D Mandala, Toji |
Tad | Saeki no Tagimi |
Mam | Tamayorigozen |
Perthnasau | Chisen, Shinzen, Enchin |
Llinach | Nao Saeki |
Arweinydd crefyddol a llenor o Siapan a adnabyddir hefyd dan ei enw crefyddol Kōbō Daishi oedd Kūkai (774-835).
Yn bolymath o ysgolhaig athrylithgar, roedd un o brif ffigyrau bywyd ymenyddol y cyfnod Heian a'r Siapanwr cyntaf i ysgrifennu Tsieineeg lenyddol o safon uchel; ffrwyth ei daith i Tsieina (804-806). Ar ôl dychwelyd i Siapan cododd fynachlog ar fynydd Kōyasan, tua 50 milltir i'r de o Heian Kyo (Kyoto heddiw) ac yno yn 816 sefydlodd yr enwad Shingon ("Y Gair Cywir") sy'n cyfuno Bwdhiaeth gyfriniol ag elfennau o Shintō, crefydd genedlaethol Siapan, ynghyd â phwyslais pantheistaidd.
Yn ôl traddodiad Kūkai yw sefydlwr y wyddor sillafaidd Siapanaeg Kana, sail y Katakana a'r Hiragana a ddefnyddir heddiw. Ysgrifennodd Kūkai sawl traethawd crefyddol ac athronyddol, e.e. Sokushin-Jobutsu-Gi ("Egwyddor Cyrraedd Bwdha-iaeth yn y Corff Presennol"). Ei waith llenyddol pwysicaf yw'r Shōrai Mokuroku, sy'n gyfuniad o hunangofiant ysbrydol yr awdur a deialog athronyddol esoterig rhyngddo a'i brif ddisgybl Hui-kuo (764-805). Erys Kūkai yn ffigwr allweddol ym mywyd ysbrydol a diwyllianol Siapan heddiw.
Llyfryddiaeth fer
[golygu | golygu cod]- Yoshito S. Hakeda, Kukai and His Major Works (Columbia University Press, 1984).
- Donald Keene (gol.), Anthology of Japanese Literature (Llundain, 1956), tt. 63-7.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cyfieithiad Saesneg o'r Sokushin-Jobutsu-Gi Archifwyd 2006-06-13 yn y Peiriant Wayback