Jim Clark
Gwedd
Jim Clark | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mawrth 1936 Kilmany |
Bu farw | 7 Ebrill 1968 o damwain cerbyd Hockenheimring |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un, ffermwr, actor ffilm |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Yr Alban |
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o'r Alban oedd Jim Clark (4 Mawrth 1936 – 7 Ebrill 1968).
Enillodd bencampwriaeth y byd ddwywaith, yn 1963 a 1965.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganed ef fel James Clark i deulu amaethyddol yn Fife. Yn 1942 symudodd y teulu i fferm ger Duns, yn Swydd Berwick. Dechreuodd rasio ceir yn 1956, ac erbyn 1961 roedd yn gyrru i dîm Lotus yn y bencampwriaeth Fformiwla Un. Yn 1963, enillodd saith allan o'r deg ras yn y bencampwriaeth.
Lladdwyd ef mewn damwain yn ystod ras Fformiwla 2 ar drac yr Hockenheimring yn yr Almaen ar 7 Ebrill 1968. Gadawodd ei gar Lotus 48 y trac a tharo coeden, gan ei ladd yn syth. Nid oes sicrwydd am achos y ddamwain.