Jörg von Ehingen
Jörg von Ehingen | |
---|---|
Ganwyd | 1428 Hohenentringen |
Bu farw | 24 Chwefror 1508 Schloss Kilchberg |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Beddrod Sanctaidd |
Roedd Jörg von Ehingen, neu Georg von Ehingen (1428–1508), yn farchog a llenor yn yr iaith Almaeneg, a aned yng nghastell Hohenentrigen, ger tref fach Rottenburg-am-Neckar yn Swabia (talaith Baden-Württemberg heddiw), ar lan Afon Neckar.
Dyddiadur Jörg von Ehingen
[golygu | golygu cod]Yr unig waith llenyddol ganddo sy'n hysbys yw cyfrol hunangofiant mae'n galw ei "Ddyddiadur" a ysgrifennwyd ganddo yn ei henaint. Er ei bod yn gyfrol fer mae'n hynod ddiddorol am y disgrifiadau a geir ynddi o bobl a lleoedd. Bu'n bresennol pan goronwyd y brenin Ladislas o Bohemia yn Fienna ar 28 Hydref 1453, er enghraifft.
Taith i'r dwyrain
[golygu | golygu cod]Aeth Jörg ar ddwy daith fawr yn ei ieunctid. Yn ystod y gyntaf, yn 1454, teithiodd i'r Dwyrain Agos. Ymwelodd â Fenis, Rhodes (lle daeth i adnabod Pennaeth Mawr Urdd Marchogion Sant Ioan a ammdiffynai'r ynys yn erbyn y Tyrciaid Otoman), ac yna Beirut, Tyrus, Nasareth, Môr Galilea a Jeriwsalem yn y Tir Sanctaidd. Ar ôl cyfnod cythryblus yn Damascus aeth i Alecsandria yn yr Aifft cyn dychwelyd i Swabia gan alw yn Cyprus a Rhodes eto ar ei ffordd adre.
Taith i'r de
[golygu | golygu cod]Roedd ei ail daith, ar ddiwedd y flwyddyn 1454 neu ddechrau 1455, yn fwy anturus. Ceisiai antur ac aeth ar gylch i gynnig ei wasanaeth fel marchog yn llysoedd Ffrainc a Sbaen. Gwelodd y brenin Siarl I yn Bourges, Juan II o Navarre ym Pamplona, René o Sisili yn Angers ac Alfonso V o Bortiwgal yn Lisbon. Gofynnodd Alfonso iddo fynd i Ceuta (yng ngogledd Morocco heddiw) i'w amddiffyn rhag lluoedd y Mwslemiaid. Cafodd ei hun mewn ymryson law-i-law ag un o farchogion gorau y Moors tra gwyliodd y ddwy fyddin yr ornest; ymryson sifalriaidd ond gwaedlyd a enillodd o drwch blewyn.
Diweddglo
[golygu | golygu cod]Dychwelodd i'w hen gartref ar lannau gwyrdd Afon Neckar yn ŵr ifanc ond profiadol, wedi ymweld â llys Harri IV o Castille ar ei ffordd ac ymladd eto. Ond efallai fod Jörg wedi cael digon o grwydro a rhyfela. Gwrthododd le yn y llys, atgyweiriodd gastell Kilchberg (castell arall y teulu) a phriododd ferch leol a bu fyw weddill ei ddyddiau yn bugeilio ei ddefaid a chodi ei deulu; diweddglo annisgwyl i yrfa marchog crwydr.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Malcolm Letts (gol.), The Diary of Jörg von Ehingen (Rhydychen, 1929)