Gwesty'r Castell, Rhuthun
Math | tafarn, gwesty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhuthun |
Sir | Rhuthun, Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 73.9 metr |
Cyfesurynnau | 53.11461°N 3.31033°W |
Cod post | LL15 1AA |
Rheolir gan | J D Wetherspoon |
Perchnogaeth | J D Wetherspoon |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dyma erthygl am yr adeilad o'r 18fed ganrif; ceir erthygl arall am Gastell Rhuthun, y gwesty Canoloesol.
Adeilad yn Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun, Sir Ddinbych ydy Gwesty'r Castell. Mae'n dyddio o'r 18g, ac mae wedi'i gofrestru'n adeilad hynafol Gradd II*. Caiff ei warchod gan Cadw; rhif cyfeirnod: 917.[1] Dyma ganol y dref, ac ar draws y ffordd saif yr adeilad lle, ar 16 Medi 2014, taniwyd y wreichionen gyntaf yn chwyldro Owain Glyndŵr pan losgodd Owain a'i fyddin yr hen Lys).
Mae'n adeilad tair llawr wedi'i wneud o fric coch lleol, ac mae'n dyddio'n ôl i'r 18g. Arferai'r goets fawr aros yma ar ei daith o Gaer i Gaergybi. Y pryd hynny, ei enw oedd 'Y Llew Gwyn'.[2] Yn 2011, fe'i prynnwyd a'i addasu cryn dipyn gan y gadwen westai honno: J D Wetherspoon.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Listed Buildings; accessed 5 June 2014
- ↑ [1] Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback; Coflein Website; accessed 11/06/2014
- ↑ [2]; BBC News; accessed 11/06/2014