Fanny Hill
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | John Cleland |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1748 |
Genre | llenyddiaeth LHDT, erotica |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Lloegr, Llundain |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nofel erotig yn yr iaith Saesneg gan John Cleland (1709 - 1789) yw Fanny Hill (teitl llawn arferol: Fanny Hill, or, Memoirs of a Woman of Pleasure; hefyd Memoirs of a Woman of Pleasure). Mae'n un o'r nofelau erotig enwocaf ac yn garreg filltir yn hanes llenyddiaeth erotig. Ralph Griffiths â'i frawd Fenton, a gyhoeddodd y gwaith. Dywedir i Ralph brynnu hawliau'r testun am £20, ond a enillodd iddo £10,000.[1][2][3]
Ar ôl cyrraedd sefyllfa o barchusrwydd a moeth, mae arwres y nofel yn edrych yn ôl ar ei gyrfa gynnar a'r anturiaethau amharchus digon a ddaeth i'w rhan. Cyrhaeddasai Fanny Hill strydoedd Llundain yn ferch ifanc unig, tlawd a diniwed. Mae'n syrthio i ddwylo dyn sy'n ei rhoi i weithio mewn puteindy, ond dim ond ar ôl iddi ddianc oddi wrtho i weithio mewn maison i bobl dda eu byd y mae hi'n dechrau sylweddoli ei grym ac yn elwa o'i sefyllfa. Erbyn iddi gyrraedd ei deunaw oed mae ganddi ddigon wrth gefn i fedru priodi â'i chariad a byw yn ddedwydd.
Mae'r fersiwn derfynol o Fanny Hill yn ffrwyth carchariad yr awdur yng ngharchar y Fflyd am fod mewn dyled (Chwefror 1748 - Mawrth 1749). Roedd Cleland eisoes wedi ysgrifennu fersiwn ddrafft a gylchredai ymhlith ei gyfeillion. Cafodd y nofel ei chyhoeddi mewn dwy gyfrol dan y teitl Memoirs of a Woman of Pleasure yn 1748 a 1749, cyn i Cleland gael ei ryddhau. Bygythwyd mynd â'r awdur a'r cyhoeddwyr i'r gyfraith, ond ar ôl iddynt dalu dirwy o £100 ddaeth y mater i ben. Cyhoeddwyd talfyriad o'r ddwy gyfrol yn 1750 a dyma'r ffurf arferol heddiw. Dim ond yn ddiweddar iawn y mae cyhoeddwyr wedi mentro argraffu'r testun heb ei sensro — cafodd argraffiad ei wahardd mor ddiweddar â 1963 ng ngwledydd Prydain.
Mae'n nofel rymus sy'n cyfuno elfennau llenyddol ac athronyddol ar un llaw gyda delweddu erotig - masweddol weithiau - cofiadwy ar y llaw arall, ac arwres anghyffredin sydd o flaen ei hoes.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Hyd yn hyn (2015), ni chafwyd cyfieithiad Cymraeg.
Yr argraffiad mwyaf cyfleus o'r testun Saesneg llawn efallai, heb ei sensro, yw'r un a geir yn y gyfres 'Penguin Popular Classics' (mewn print).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kent, 12
- ↑ Roger Lonsdale, "New attributions to John Cleland", The Review of English Studies 1979 XXX(119):268-290 doi:10.1093/res/XXX.119.268
- ↑ Richard J. Wolfe, "Marbled paper: its history, techniques, and patterns : with special reference to the relationship of marbling to bookbinding in Europe and the Western world", Publications of the A.S.W. Rosenbach fellowship in bibliography, University of Pennsylvania Press, 1990, ISBN 0-8122-8188-8, t.96