Cerflun Edward Colston
Math | cerfddelw |
---|---|
Enwyd ar ôl | Edward Colston |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | The Centre |
Sir | Dinas Bryste |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Harbwr Bryste |
Cyfesurynnau | Unknown |
Cod OS | ST5862873014 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Deunydd | efydd |
Cafodd cerflun o Edward Colston a arferai sefyll yng nghanol dinas Bryste ei dynnu i lawr gan brotestwyr ar 7 Mehefin 2020. Codwyd y cerflun cyntaf ym 1895.[1] Y cerflunydd oedd John Cassidy.
Dyn cyfoethog oedd Colston (1636–1721) a gafodd y rhan fwyaf o'i arian o'r fasnach gaethweision. Gwnaed cwynion am y cerflun cyntaf tua 1990 a gofynnwyd i Gyngor Dinas Bryste ei dynnu. Yn ystod protestiadau "Black Lives Matter" yn 2020, taflwyd y cerflun i'r harbwr. Tynnodd Cyngor Dinas Bryste y cerflun o'r dŵr ac maen nhw'n bwriadu ei roi mewn amgueddfa.
Dwedodd y Prif Gwnstabl Heddlu Bryste, Andy Marsh: "Byddai arestio pobl [ar y pryd] yn debygol o fod wedi arwain at anafiadau […] a gallai [hynny] fod wedi cael goblygiadau difrifol i ddinas Bryste a thu hwnt. Fedrwch chi ddychmygu golygfeydd o’r heddlu ym Mryste yn ymladd â phrotestwyr a oedd yn difrodi’r cerflun o ddyn yr ystyrir ei fod wedi gwneud tipyn o’i ffortiwn drwy’r fasnachu caethweision?"[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Saner, Emine (29 Ebrill 2017). "Renamed and shamed: taking on Britain's slave-trade past, from Colston Hall to Penny Lane". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Mehefin 2020.
- ↑ "Prif Gwnstabl Heddlu Bryste yn amddiffyn tactegau'r heddlu ar ôl i gerflun gael ei ddymchwel". Golwg 360. 8 Mehefin 2020. Cyrchwyd 16 Mehefin 2020.