Neidio i'r cynnwys

Fyodor Dostoievski

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dostoevsky)
Fyodor Dostoievski
FfugenwД., Друг Кузьмы Пруткова, Зубоскал, —ий, М., Летописец, М-ий, Н. Н., Пружинин, Зубоскалов, Ред., Ф. Д., N.N. Edit this on Wikidata
Ganwyd30 Hydref 1821 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 1881 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Milwrol Peiranneg a Thechnegol
  • Ysgol Decholegol Nikolaev Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, nofelydd, awdur ysgrifau, awdur storiau byrion, newyddiadurwr, athronydd, cofiannydd, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Gwyddoniaethau Rwsia Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNotes from Underground, Trosedd a Chosb, The Idiot, Demons, The Brothers Karamazov, The House of the Dead, The Gambler, Poor Folk, The Double Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAlexandr Pushkin, Mikhail Lermontov, Nicolai Gogol, Vladimir Solovyov, Vissarion Belinsky, Alexander Ivanovich Herzen, Adam Mickiewicz, Immanuel Kant, William Shakespeare, Honoré de Balzac, Miguel de Cervantes, Charles Dickens, Victor Hugo, George Sand, Friedrich Schiller, E. T. A. Hoffmann, Edgar Allan Poe, Crist, Nikolay Karamzin Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata
TadMikhail Andreyevich Dostoevsky Edit this on Wikidata
MamMaria Fiodorovna Dostoïevskaïa Edit this on Wikidata
PriodAnna Dostoyevskaya, Maria Dostoevskaya Edit this on Wikidata
PlantLyubov Dostoevskaya Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://fedordostoevsky.ru Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd Rwsaidd oedd Fyodor Mikhailovich Dostoievski (Rwsieg: Фёдор Михайлович Достоевский, sydd weithiau'n cael ei drawslythrennu fel Dostoevsky, Dostoyevsky neu Dostoievsky (11 Tachwedd 18219 Chwefror, 1881).[1] Ystyrir dwy o'i nofelau, Y Brodyr Karamazov a Trosedd a Chosb ymhlith nofelau pwysicaf y 19g.

Ganed ef yn Moscow, yr ail o saith plentyn i Mikhail a Maria Dostoievski. Roedd ei dad yn lawfeddyg milwrol wedi ymddeol oedd yn gweithio fel meddyg yn Ysbyty'r Tlodion Mariinsky, ac yn alcoholig. Wedi i'w fam farw yn 1837, gyrrwyd Dostoievski a'i frawd i Academi Beirianneg Filwrol St. Petersburg. Bu farw ei dad yn 1839. Daeth yn swyddog yn y fyddin yn 1842, a gadawodd yr academi y flwyddyn wedyn. Cyfieithodd y nofel Eugénie Grandet gan Balzac yn 1843, a dechreuodd ysgrifennu nofel wreiddiol yn 1844. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Pobl Dlawd, yn 1845, a chafodd dderbyniad gwresog. Ni chafodd ei nofel nesaf, Y Dwbl, gystal derbyniad.

Ar 23 Ebrill 1849, cymerwyd ef i'r ddalfa ar gyhuddiad o fod yn rhan o'r grŵp rhyddfrydol Cylch Petrashevsky. Roedd Nicolas I, ymerawdwr Rwsia yn benderfynol o ddinistrio unrhyw fudiadau tanddaearol o'r fath. Ar 16 Tachwedd, dedfrydwyd ef ac aelodau eraill o'r cylch i farwolaeth. Cymerwyd hwy allan gan ddweud wrthynt eu bod ar fin cael eu saethu, ond yna cyhoeddwyd fod y ddedryd wedi ei newid i bedair blynedd o alltudiaeth yn Siberia. Rhyddhawyd ef yn 1854, a bu raid iddo wasanaethu yng Nghatrawd Siberia, lle bu am y pum mlynedd nesaf. Priododd Maria Dmitrievna Isaeva yn 1857.

Arweiniodd ei brofiadau at newid yn ei syniadau gwleidyddol a chrefyddol; cefnodd ar syniadau "gorllewinol" a dechreuodd ganolbwyntio ar werthodd pobl gyffredin Rwsia. Cafodd droedigaeth grefyddol hefyd.

Yn Rhagfyr 1859, dychwelodd i St. Petersburg, lle dechreuodd nifer o gylchgronau llenyddol heb lawer o lwyddiant. Bu farw ei wraig yn 1864, a'i frawd yn fuan wedyn. Aeth i ddyled, a dywedir iddo ysgrifennu Trosedd a Chosb ar frys i gael arian blaendal gan ei gyhoeddwr. Ail-briododd yn 1867. O 1873 hyd 1881 cyhoeddodd Dyddiadur Awdur, misolyn o storiau byrion ac erthyglau, a fu'n llwyddiannus iawn. Bu farw yn 1881 a chladdwyd ef ym mynwent Tikhvin ym Mynachlog Alexander Nevsky yn St. Petersburg.

Prif weithiau

[golygu | golygu cod]
  • Бедные люди Pobl Dlawd (1846)
  • Двойник. Петербургская поэма Y Dwbl (1846)
  • Неточка Незванова Netochka Nezvanova (1849)
  • Село Степанчиково и его обитатели Pentref Stepanchikovo (1859)
  • Униженные и оскорбленные Y Sarhaedig a Gwaradwyddedig (1861)
  • Записки из мертвого дома Tŷ y Meirwon (1862)
  • Записки из подполья Nodiadau Tanddaearol (1864)
  • Преступление и наказание Trosedd a Chosb (1866)
  • Игрок Yr Hapchwaraewr (1867)
  • Идиот Yr Ynfytyn (1869)
  • Бесы Y Meddianedig (1872)
  • Подросток Y Bachgen Anaeddfed (1875)
  • Братья Карамазовы Y Brodyr Karamazov (1880)
  • Дневник писателя Dyddiadur Awdur (1873-1881)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Frank, Joseph (1981). "Foreword". In Goldstein, David (gol.). Dostoevsky and the Jews (yn Saesneg). University of Texas Press. ISBN 978-0-292-71528-8. Text "pages 700-750" ignored (help)