Clément Marot
Clément Marot | |
---|---|
Ganwyd | 2 Rhagfyr 1495 Cahors |
Bu farw | 12 Medi 1544 Torino |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, cyfieithydd |
Arddull | epistolary fiction |
Tad | Jean Marot |
Bardd o Ffrainc oedd Clément Marot (23 Tachwedd 1496 – 12 Medi 1544), ganwyd yn Cahors, Quercy, rhanbarth Aquitaine, de Ffrainc, yn fab i'r bardd Jean Marot (m. 1526, o Normandi'n wreiddiol). Un o raglaenwyr pwysicaf beirdd y Pléiade.
Ei Oes
[golygu | golygu cod]Tua 1506 cafodd ei dad swydd yng ngwasanaeth Ann o Lydaw ym Mharis ac aeth Clément yno efo fo. Cafodd swydd fel ysgrifennydd llys a daeth yn aelod o'r Basoche a'r Enfants sans souci, dwy gymdeithas a warcheidiai fuddianau gwŷr cyfraith ac a hyrwyddai ddigwyddiadau llenyddol a diwyllianol. Tua 1518 cafodd ei apwyntio'n valet de chambre i Marguerite d'Alençon (Marguerite de Navarre), a fyddai'n ddiwedarach yn Frenhines Navarre. Pan fu farw ei dad yn 1526 cymerodd Clément ei le yn llys Brenin Ffrainc ond parhaodd i fwynhau nawdd Marguerite de Navarre. Roedd gweithgareddau Marot yn ennyn gwg y diwinyddion ceidwadol a chafodd ei garcharu yn y Châtelet am gyfnod yn 1525 am dorri ympryd y Grawys. Yn sgîl yr adwaith yn 1534 yn erbyn y Lutheriaid a'u cydymdeimlwyr mudodd i'r Eidal a threuliodd gyfnod pwysig yn Ferrara a Fenis. Dychwelodd i Ffrainc a llwyddodd i barhau a'i waith o gyfieithu'r Salmau, oedd wedi codi gwrychyn y ceidwadwyr eglwysig. Yn 1541 bu rhaid iddo ffoi eto, i Genefa y tro yma, lle cafodd gefnogaeth Jean Calvin. Ond roedd ymddygiad anghonfensiynol y bardd yn digio'r Protestaniaid hefyd - dywedir iddo chwarae bacgamon ar y Sabath, er enghraifft - a ffôdd unwaith eto, i Savoy (Savoie) ac yna i'r Eidal lle bu farw yn Twrin yn 1544.
Ei Waith
[golygu | golygu cod]Un o'i gerddi cynharaf i weld golau dydd yw'r ballade (balad) a gyfansoddodd i'r Enfants sans souci. Yn 1532 cyhoeddodd gasgliad o'i gerddi cynnar, yr Adolescence Clémentine. Dan nawdd Marguerite de Navarre dechreuodd ar ei waith o gyfieithu'r Salmau i'r Ffrangeg; mae Miroir de l'âme pécheresse gan Marguerite yn cynnwys un o gyfieithiadau cynnar Marot (Salm vi). Cyhoeddodd ei Œuvres yn 1539, ar ôl dychwelyd i Ffrainc o alltudiaeth yn yr Eidal, a chyflwynodd i'r brenin gyfieithiad o 30 Salm; cyhoeddwyd argraffiad llawnach o'i gyfieithiadau o'r Salmau (50 ohonynt) yn Genefa yn 1543.
Roedd Marot yn ysgolhaig a chyfieithydd yn ogystal, a chyhoeddodd olygiad o'r gerdd ganoloesol Le Roman de la Rose yn 1527 a hefyd golygiad o waith François Villon (1431-?) yn 1533. Roedd yn Lladinwr hefyd a chyhoeddodd gyfieithiad o ran o Metamorphoses Ofydd (Ovid) yn 1530. Dyfnhaodd ei wybodaeth o'r Lladin yn ystod ei alltudiaeth yn yr Eidal; cyfieithodd rai o epigramau Martial a throsiad o 4edd Eclog Fferyll (Virgil). Yn yr Eidal hefyd daeth yn gyfarwydd â'r soned ac roedd un o'r Ffrancwyr cyntaf i gyfansoddi sonedau.
Nodweddir ei gerddi gan gymysgedd o ysgafnder anghyfrifol a dwysder ysbrydol sydd efallai'n nodweddiadol o'r dyn a'i oes. Mae ei gerddi niferus yn amrywiol iawn eu cynnwys a'u mydr ond mae'r rhan fwyaf yn gerddi cymharol byr, yn epistolau, eclogau, rondeaux, chansons, marwnadau ac epigramau; ffurfiau traddodiadol sy'n cael bywyd newydd dan law Marot. Mae beirniadaeth o ddiwinyddion y Sorbonne, y Babaeth ac Urdd Sant Ffransis yn elfen gyson yn ei waith ond mae hefyd yn medru canu'n bêr ar bynciau fel natur a chariad. Gellid ystyried gwaith Clément Marot fel pont rhwng yr Oesoedd Canol â'i hoffter o gerddi alegorïaidd didactaidd a'r ysbryd newydd a flodeuodd yn yr 16g.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Geoffrey Brereton (gol.), The Penguin Book of French Verse[:] Sixteenth to Eighteenth Centuries (Llundain, 1958).
- G. Lanson a P. Tuffrau, Manuel Illustré de la Histoire de la Littérature Française (Paris, 1929).
- G. Pellisier (gol.), Morceaux choisis des Poétes du XVIe siècles (Paris, 1918).
- C.-F. Ramuz (gol.), Anthologie de la poésie française, 16e et 17e siècles (Paris, 1943).