Rhestr Goch yr IUCN

Sefydlwyd y Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. (a gaiff ei adnabod hefyd fel: Rhestr Goch yr IUCN), yn 1963; dyma restr mwyaf cynhwysfawr o rywogaethau ledled y byd o rywogaethau biolegol. Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (International Union for Conservation of Nature) ydy prif awdurod ar statws cadwiaethol rhywogaethau.

Mae'r Undeb Rhyngwladol yn ceisio adolygu eu rhestrau unwaith pob pum mlynedd.[1]
Categoriau
[golygu | golygu cod]Dosberthir rhywogaethau gan yr IUCN i 9 grŵp,[2] grwy ddefnyddio llinynau mesur (neu griteria) megis cyflymder y dirywiad yn y niferoedd, maint y boblogaeth, dosbarthiad daearyddol ayb.
- Rhywogaeth wedi darfod (Extinction|Extinct (EX)) – Dim un o'r rhywogaeth yn bodoli.
- Wedi diflannu yn y gwyllt (Extinct in the Wild (EW)) – Y rhywogaeth yn bodoli mewn sŵ yn unig, neu wedi'i ddofi.
- Rhywogaeth mewn perygl difrifol (Critically endangered species (CR)) – Yn bur debygol o ddiflanu yn y gwyllt.
- Mewn perygl (Endangered (EN)) – Posibilrwydd o ddiflanu o'r gwyllt yn uchel.
- Bregus (Vulnerable (VU)) – Perygl o ddiflanu o'r gwyllt.
- Yn agos at fod dan fygythiad (Near Threatened (NT)) – Yn debygol o fod mewn perygl yn y dyfodol agos.
- Lleiaf o bryder (Least Concern (LC)) – Y risg lleiaf. Niferoedd eang ac iach.
- Diffyg Data (Data Deficient (DD)) – Dim digon o ddata i werthuso'r risg i'r rhywogaeth.
- Heb ei werthuso (Not Evaluated (NE)) – Heb gael ei gloriannu.
Wrth drafod y Rhestr Goch yr IUCN, mae'r term "Dan Fygythiad" yn cwmpasu 3 chategori: Rhywogaeth mewn perygl difrifol, Mewn perygl, a Bregus.
Fersiynau
[golygu | golygu cod]Ers 1991 cafwyd sawl fersiwn o'r Rhestr Goch, gan gynnwys:[3][4]
- Fersiwn sion 2.0 (1992)
- Fersiwn 2.1 (1993)
- Fersiwn 2.2 (1994)
- Fersiwn 2.3 (1994)
- Fersiwn 3.0 (1999)
- Fersiwn 3.1 (2001)
- Fersiwn 4 (2015)
Y rhestr bwysicaf o ran planhigion yw Fersiwn 1997.[5] 1.0 (1991)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ceir categori cyfan o erthyglau rhywogaethau yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Red List Overview". IUCN Red List. International Union for Conservation of Nature. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-27. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
- ↑ Canllawiau ar sut i ddefnyddio'r Categoriau a llinynau mesur, IUCN, Awst 2010, http://www.nationalredlist.org/files/2012/09/Guidelines-for-Using-the-IUCN-Red-List.pdf, adalwyd 2012-09-05
- ↑ "2001 Categories & Criteria (version 3.1)". IUCN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mehefin 2014. Cyrchwyd 27 Ionawr 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Historical IUCN Red Data Books and Red Lists". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mehefin 2014. Cyrchwyd 9 Mehefin 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Which IUCN list should I choose?". Botanic Gardens Conservation International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-05. Cyrchwyd 2017-03-07.