Bancio a chyllid Cymru
Mae diwydiannau bancio a chyllid Cymru yn cynnwys y Banc datblygu Cymru.
Banciau cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Mae Banc Datblygu Cymru yn fanc buddsoddi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n buddsoddi mewn busnesau, yn enwedig busnesau newydd drwy ddarparu cyfalaf twf.[1]
Mae Banc Cambria yn fanc cymunedol Cymraeg arfaethedig sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.[2]
Banciau eraill yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Mae Hodge Bank wed'i enwi ar ôl Syr Julian Hodge. yw Ffurfiwyd y banc ym 1987 fel Banc Julian Hodge, ac mae ei bencadlys yng Nghaerdydd, Cymru.
Cymdeithasau adeiladu
[golygu | golygu cod]Mae Cymdeithas Adeiladu Abertawe yn gymdeithas adeiladu gydfuddiannol annibynnol wedi'i lleoli yn Abertawe, Cymru . Mae'n aelod o Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu.[3]
Cymdeithas Adeiladu'r Principality yw cymdeithas adeiladu mwyaf Cymru, gyda'i bencadlys yng Nghaerdydd. Mae gan y banc asedau o £10bn.[4]
Mae
Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gymdeithas adeiladu Gymreig, sydd â'i phrif swyddfa yng Nghasnewydd. Mae'r Gymdeithas yn darparu amrywiaeth o gynnyrch morgeisi a chynilo. Mae ystod eang o wasanaethau ategol, gan gynnwys yswiriant, cynllunio ariannol, gwasanaethau cyfreithiol a chynlluniau angladd hefyd yn cael eu darparu gan nifer o gwmnïau trydydd parti eraill.
Yswiriant
[golygu | golygu cod]Cwmni gwasanaethau ariannol Cymreig yw Admiral Group plc sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd, Cymru. Wedi'i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, mae'n rhan o Fynegai FTSE 100, ac yn marchnata brandiau yswiriant cerbydau Admiral, Bell, Elephant, Diamond a Veygo, yn ogystal â lansio'r gwasanaethau cymharu prisiau Confused.com a Compare.com.[5] Mae'r grŵp yn cyflogi mwy na 10,000 o bobl ar draws ei frandiau.[6]
Mae Thomas Carroll Group plc yn ddarparwr Cymreig o yswiriant busnes a phersonol, rheolaeth ariannol, iechyd a diogelwch a gwasanaethau ymgynghori cyfraith cyflogaeth.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Who we are | Development Bank of Wales". developmentbank.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-26.
- ↑ "Banc Cambria | Monmouthshire Building Society". www.monbs.com. Cyrchwyd 2022-06-26.
- ↑ "Building Societies Yearbook 2020/21". Building Societies Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-30. Cyrchwyd 14 May 2021.
- ↑ https://www.principality.co.uk/en/About-Us/Media-Centre/20130731-Principality-grows-to-sixth-largest-building-society-in-the-UK.aspx [dolen farw]
- ↑ Treanor, Jill (2015-05-13). "Admiral insurance founder to step down after 25 years". The Guardian. Cyrchwyd 2019-07-16.
- ↑ "Our Story". Admiral jobs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-22.
- ↑ "About Thomas Carroll Group plc | Thomas Carroll, South Wales". Thomascarroll.co.uk. 2014-06-20. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-19. Cyrchwyd 2015-04-23.