Annibyniaeth yr Alban
Annibyniaeth yr Alban (Gaeleg yr Alban: Neo-eisimeileachd na h-Alba) yw'r cysyniad o'r Alban fel gwlad sofran.
Crynhoad
[golygu | golygu cod]Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan ddeddf uno 1707 pan ddaeth yr Alban yn rhan o'r Deyrnas Unedig (DU).[1] Tua diwedd yr 20g a dechrau'r 21g, datblygodd fudiad dros annibyniaeth i'r Alban. Arweiniodd hyn at refferendwm aflwyddiannus 2014 lle pleidleisiodd 45% o Albanwyr o blaid annibyniaeth. Yn y refferendwm, gwrthododd 55% o bleidleiswyr annibyniaeth.[2]
Ers hynny mae Plaid Genedlaethol yr Alban yn parhau i lywodraethu ac arddel annibyniaeth. Er hyn, gwrthododd prif weinidog y Deyrnas Unedig y pryd[angen ffynhonnell] gais Nicola Sturgeon am bwerau i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth. Mae prif weinidog presennol yr Alban, Humza Yousaf, yn parhau i anelu tuag at annibyniaeth.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Annibyniaeth i Gymru
- Arolygon barn ar annibyniaeth i Gymru
- Iwerddon unedig
- Arolygon barn ar Iwerddon Unedig
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Union with England Act 1707". British Government. Cyrchwyd 12 August 2021.
- ↑ "Scottish independence referendum". www.gov.uk. UK Government. Cyrchwyd 29 Mai 2014.
|