Adamnán
Adamnán | |
---|---|
Ganwyd | c. 624 Swydd Donegal |
Bu farw | 704 Iona |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, hagiograffydd, bardd, mynach, llenor, gweinidog yr Efengyl |
Swydd | abad |
Dydd gŵyl | 23 Medi |
Perthnasau | Conall Gulban |
Roedd Adamnán (c.624-704) yn eglwyswr o Wyddel ac yn awdur yn yr iaith Ladin.
Adamnán oedd nawfed abad Abaty Iona, yng ngorllewin yr yr Alban, rhwng 679 a'i farwolaeth yn 704.
Yn ystod ei amser yn Iona ysgrifennodd y Vita Columbae, buchedd Ladin y sant Colum Cille (Columba), sylfaenydd Abaty Iona. Mae'n destun pwysig o safbwynt ei werth llenyddol a hanesyddol.
Mae Adamnán ei hun yn wrthrych buchedd Wyddeleg o ail hanner y 10g, sef Betha Adamnán, sy'n ei borteadu fel sant yn gwneud miraglau ac yn gwrthwynebu rheolwyr seciwlar, ond nid oes iddi lawer o werth hanesyddol.
Mae gweithiau eraill amdano yn cynnwys Fís Adamnán (Gweledigaeth Adamnán), testun Gwyddeleg o'r 9g neu ddechrau'r 10g. Ynddo mae angel yn tywys enaid yr abad trwy amryfal ardaloedd yr Isfyd.
Mae testun Cyfraith Wyddelig Cáin Adamnán yn dyddio o'r cyfnod ar ôl marwolaeth Adamnán. Ei brif bwnc yw troseddau yn erbyn merched, plant ac eglwyswyr.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Woodbridge, 1997)