John Jones (Jac Glan-y-gors)
Awdur pamffledau gwleidyddol a bardd dychanol o Gymru oedd John Jones (Jac Glan-y-gors) (10 Tachwedd 1766 – 21 Mai 1821), a anwyd yng Ngherrigydrudion, yn yr hen Sir Ddinbych (Sir Conwy).
John Jones | |
---|---|
Ffugenw | Jac Glan Gors |
Ganwyd | 10 Tachwedd 1766 Cerrigydrudion |
Bu farw | 21 Mai 1821 |
Man preswyl | Southwark |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, dychanwr |
Adnabyddus am | Seren Tan Gwmmwl |
Ei fywyd
golyguGanwyd a magwyd Jac Glan-y-gors yn ffermdy Glan-y-gors ym mhlwyf Cerrigydrudion, yn fab i Margaret a Laurence Jones. Treuliodd ei lencyndod yn gweithio ar y fferm deuluol, hyd yn 23 oed. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanrwst (Ysgol Rad Llanrwst) am gyfnod.
Symudodd i Lundain yn 1789 i weithio mewn siop yn y dref honno. Yn ôl un ffynhonnell, ffodd yno oddi wrth gwŷr y gyfraith, wedi iddo wrthod ymuno â'r milisia lleol, un o ugeiniau a godwyd yng Nghymru yr adeg honno am fod yr awdurdodau'n ofni goresgyniad y Ffrancod, a bygwth torri tŷ'r person lleol, un o'r enw Rowlands, ar ei ben. Yn 1793 roedd yn rhedeg tafarn y Canterbury Arms, Southwark. Ar 23 Gorffennaf 1816 priododd â Jane Jones (née Mondel; merch o Whitehaven) yn eglwys y plwyf, Bermondsey.[1]
Yn 1818 cymerodd denantiaeth y King's Head yn Stryd Ludgate yn 1818, a fu'n gyrchfan i Gymry Llundain a bu farw yno yn 1821.
Cymdeithasau llenyddol Llundain
golyguYn Llundain daeth yn aelod blaengar o Gymdeithas y Gwyneddigion yn 1790, yn yr un flwyddyn â Twm o'r Nant ac Edward Charles. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion er hyrwyddo'r Gymraeg. Ef hefyd oedd un o gychwynwyr Y Greal, ar ran y Gymdeithas honno.
Ei waith llenyddol
golyguYn ôl traddodiad lleol arferai Glan-y-gors eistedd ar garreg fawr ar lan ffrwd ger y fferm i brydyddu. Perthyn i draddodiad y bardd gwlad mae ei gerddi cyntaf, yn gerddi mawl neu ddiolch i ffrindiau a chymdogion; "cerddi achlysurol".
Cyflwynodd syniadau radicalaidd Thomas Paine i'r Cymry drwy'i ddau lyfryn enwog Seren Tan Gwmmwl (1795) a Toriad y Dydd (1797). Bu rhaid iddo ffoi o Lundain a llechu yng nghymdogaeth Cerrigydrudion am gyfnod mewn canlyniad; roedd yr awdurdodau'n llawdrwm ar unrhyw un a gefnogai syniadau'r Chwyldro Ffrengig.
Ysgrifennodd nifer helaeth o faledi hefyd, gan gynnwys Hanes offeiriad wedi meddwi (Person Sir Aberteifi), Yr hen amser gynt (addasiad o Auld Lang Syne) a Cerdd Dic Siôn Dafydd sy'n dychanu Cymry Llundain am droi eu cefn ar yr iaith Gymraeg.
Llyfryddiaeth
golygu- Seren Tan Gwmmwl a Toriad y Dydd, (Lerpwl, 1923). Adargraffiad o'r testunau gwreiddiol gyda rhagymadrodd gan Hugh Evans.
- Richard Griffith (gol.), Gwaith Glan y Gors (Llanuwchllyn, 1905). Detholiad o'i gerddi yng Nghyfres y Fil gyda rhagymadrodd gan Carneddog.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ bywgraffiadur.cymru; adalwyd 31 Hydref 2020.