Augustus

ymerawdwr cyntaf yr Ymerodraeth Rufeinig a sylfaenydd llinach Julio-Claudian

Augustus (Lladin IMP•CAESAR•DIVI•F•AVGVSTVS 23 Medi 63 CC19 Awst 14 OC) oedd Ymerawdwr cyntaf Rhufain. Ganwyd Gaius Octavianus, a elwir hefyd Octavian. Bu'n ymeradwr o 16 Ionawr 27 CC hyd ei farwolaeth. Ni ddefnyddiai Augustus y gair "Imperator", gan ddewis ei alw ei hun yn Princeps.

Augustus
GanwydC. Octavius C.f. Edit this on Wikidata
23 Medi 63 CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 0014 Edit this on Wikidata
Nola Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, pontifex maximus, Censor, tribune, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, triumvir rei publicae constituendae, moneyer Edit this on Wikidata
TadGaius Octavius, Iŵl Cesar Edit this on Wikidata
MamAtia Edit this on Wikidata
PriodClaudia, Scribonia, Livia Edit this on Wikidata
PartnerSalvia Titisenia, Sarmentus Edit this on Wikidata
PlantIulia Maior, Gaius Caesar, Lucius Caesar, Tiberius, Agrippa Postumus Edit this on Wikidata
PerthnasauIŵl Cesar, Julia Minor, Marcellus, Nero Claudius Drusus, Tiberius, Cornelia Edit this on Wikidata
LlinachJulio-Claudian dynasty, Julii Caesares, Octavii Rufi Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Rhufain neu Velletri ar 23 Medi, 63 CC. Bu farw ei dad yn 58 CC pan oedd Augustus yn bedair oed. Roedd yn berthynas i Iŵl Cesar ac yn 46 CC gwasanaethodd yn y fyddin dan Cesar yn Hispania (Sbaen).

Wedi i Cesar gael ei lofruddio yn 44 CC, datgelwyd yn ei ewyllys ei fod wedi nodi Octavius fel ei etifedd. Cymerodd Octavius yr enw Gaius Julius Caesar. Ymunodd mewn cynghrair a Marcus Antonius a Marcus Aemilius Lepidus a chodwyd byddin i wrthwynebu y blaid oedd wedi llofruddio Cesar, oedd yn cael ei harwain gan Marcus Junius Brutus a Gaius Cassius. Wedi gorchfygu Brutus a Cassius ym Mrwydr Philippi, datblygodd cweryl rhwng Octavius a Marcus Antonius, oedd yn cael ei gefnogi gan Cleopatra, brenhines yr Aifft. Gorchfygwyd Antonius a Cleopatra ym Mrwydr Actium, a daeth Octavius yn unig reolwr yr ymerodraeth.

Cymerodd yr enw "Augustus" a'r teitl "Princeps". Dangosodd allu gwleidyddol anghyffredin i gadarnhau ei safle tra'n cadw llawer o nodweddion y cyfnod gweriniaethol, megis y Senedd. I bob golwg, y Senedd oedd yn rheoli Rhufain, ond mewn gwirionedd gan Augustus yr oedd y grym. Cymerodd rai blynyddoedd i ddatblygu fframwaith ar gyfer rheoli'r ymerodraeth. Ni dderbyniodd swydd dictator fel Iŵl Cesar pan gynigiwyd hi iddo gan bobl Rhufain. Rhoddodd y Senedd hawliau tribwn y bobl a censor iddo am oes, a bu'n gonswl hyd 23 OC. Yn rhannol, deilliai ei rym o'r ffaith mai ef oedd a rheolaeth dros y fyddin, ond deilliai hefyd o'i auctoritas (awdurdod) ef ei hun.

Er gwaethaf yr ymladd ar ffiniau'r ymerodraeth, dechreuodd teyrnasiad Augustus gyfnod o heddwch oddi mewn i'r ymerodraeth ei hun, y Pax Romana ("Heddwch Rhufeinig"). Heblaw am flwyddyn o ryfel cartref yn 69 OC, parhaodd hwn am dros ddwy ganrif.

Bu Augustus farw ar 19 Awst 14 OC, a dilynwyd ef gan Tiberius. Cafodd mis Awst ei enwi ar ei ôl.

Cerflun efydd o Augustus yn Amgueddfa Archaeolegol Athen
Rhagflaenydd:
Ymerawdwr Rhufain
16 Ionawr 27 CC19 Awst 14 OC
Olynydd:
Tiberius
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato